- Dewiswch sawl cynnig yr hoffech chi – £1 yn unig yw pob cynnig wythnosol.
- Gallwch dalu am eich cynigion loteri trwy Ddebyd Uniongyrchol neu dalu gyda cherdyn credyd/debyd.
- Byddwch yn derbyn eich rhif neu rifau loteri 6 digid unigryw drwy e-bost.
- Bydd eich rhifau’n cael eu cynnwys bob wythnos yn awtomatig os oes gennych gredyd yn eich cyfrif.
- Bob dydd Gwener, caiff rhif loteri chwe digid buddugol ei dynnu.
- Nod y gêm yw paru eich digidau yn y lleoliad cywir yn y dilyniant buddugol i ennill gwobrau.
- Mae 6 digid yn y lleoliad cywir yn ennill £25,000
- Mae 5 digid yn y lleoliad cywir yn ennill £1,000
- Mae 4 digid yn y lleoliad cywir yn ennill £25
- Mae 3 digid yn y lleoliad cywir yn ennill 5 cynnig arall yn y rownd nesaf
- Mae’r gwobrau’n cael eu hanfon atoch yn syth, felly nid oes angen i chi eu hawlio!
Ac mae hi mor syml â hynny! Rydych yn gwybod sut i chwarae bellach, felly gobeithiwn y byddwch yn ymuno â ni i greu enillwyr a chefnogi elusennau yng Nghymru.
Os oes gennych chi ragor o gwestiynau, darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin defnyddiol.
Mae rheolau’r Loteri’n berthnasol, gallwch eu gweld nhw yma.